News

Amdanom

 Trawsnewid Bywydau drwy Bŵer Chwaraeon

Mae chwaraeon yng Nghymru wedi ymrwymo i ‘ysbrydoli’r gwaith o gyflwyno canlyniadau mwy a gwell i chwaraeon’. Gweledigaeth ein sector chwaraeon ni yw ‘Uno Cenedl Sy’n Caru’r Campau’, lle mae ‘Pob Plentyn wedi Gwirioni ar Chwaraeon am Oes’ a Chymru yn ‘Genedl o Bencampwyr’.

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymrwymo i’r weledigaeth hon ac yn credu bod ganddi rôl ganolog ac unigryw i’w chwarae mewn helpu i annog newid mawr drwy adeiladu ar brofiad y gorffennol a llwyddiannau diweddar.

Ein nod ni yw cyfrannu at y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon drwy greu sector chwaraeon mwy cynhwysol lle mae pob person anabl wedi gwirioni ar chwaraeon, gan gynnig dewis go iawn o ran lle, pryd a pha mor aml mae pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Rydym yn credu y bydd y dull hwn o weithredu’n helpu i ddiogelu nod y sector o ‘fwy o bobl yn fwy egnïol yn fwy aml’.

I greu’r newid hwn, fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn uchelgeisiol - mae’n rhaid i ni osod y safon yn uchel. Ni allwn ni gyflawni newid mawr drwy Chwaraeon Anabledd Cymru yn unig. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein partneriaid presennol, a phartneriaid newydd, ar y siwrnai gyda ni. Mae’n rhaid i ni herio ein partneriaid a’r tirlun chwaraeon ehangach i dderbyn a chroesawu cynhwysiant, a thrwy wneud hynny, sicrhau lefelau gwell fyth o weithgarwch i bobl anabl.

Ein Gweledigaeth:

Trawsnewid Bywydau drwy Bŵer Chwaraeon’

 Ein Gwerthoedd: 

Ein Gwerthoedd

 

Ein Cenhadaeth:Mission Diagram (welsh)

Ein Hegwyddorion Arweiniol: 

Guiding Principles Welsh

 

 Our Vision Document pdf (Cymraeg) Click here

 

 



Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Twitter

RT Are you worried about organisational abuse? Learn to spot the signs and the symptoms, and some essential advice on… https://t.co/PZLahLYizw


RT Onto Germany 🇩🇪 @Sunwise_HQ https://t.co/jzkhi1o0Lv


RT 3 days to go! 3 dirwnod i fynd! FREE fun event for all ages and abilities! #cyfres #insport #series @dsw_newshttps://t.co/ICsOoxMu6d


RT Action pic from yesterday https://t.co/cQzjQbUIwd


Cofrestru i dderbyn cylchlythyr