Bu farw Anthony Hughes MBE yn sydyn ac yn annisgwyl ar 30 Rhagfyr 2022.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn curadu Llyfr Cydymdeimlad ar ran ei deulu ac ar gyfer y sector chwaraeon.
Ymuno
Dewch o hyd i'ch Clwb insport agosaf
Mae mwy na 170 o glybiau ar draws y wlad wedi cyrraedd Safon RhubanClwb insportneu uwch, gan ddarparu cyfleoedd cynhwysol ac anabledd-benodol ar gyfer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Cymru Dosbarth Byd
Chwaraeon Anabledd a Pharasport Elitaidd
Yn y cyfnod yn arwain at y Gemau Paralympaidd a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill, bydd Chwaraeon Anabledd Cymru yn paratoi'r ffordd ar gyfer y cnwd diweddaraf o sêr Paralympaidd a Deaflympic y dyfodol o fewn y rhaglen Llwybr Perfformiad.
Mae’r Tîm Llwybr Perfformiad yn darganfod a chefnogi unigolion i gyrraedd eu potensial o fewn chwaraeon, os oes gennych ddiddordeb dysgu mwy am y rhaglen llwybr perfformiad plîs cysylltwch â’r tîm inspire@disabilitysportwales.com neu os ydych chi’n athletwr (neu eisiau fod yn un) cwblhewch y ffurflen #ysbrydoli.
Cysylltiedig

Community and Grass Roots Sport
Cyfleoedd i Bawb
Disability Sport Wales supports over a million grass roots opportunities for disability-specific and inclusive sport per year.
Mae mwy na 170 o glybiau ledled y wlad wedi cyrraedd Safon Rhuban Clwb insport neu uwch, gyda llawer mwy ar eu taith insport.

Cynhwysiant + chwaraeon = insport
Mae insport yn brosiect gan Chwaraeon Anabledd Cymru a ddarperir gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, sydd â’r nod o gefnogi’r sectorau gweithgaredd corfforol, chwaraeon a hamdden i ddarparu pobl anabl yn gynhwysol.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi datblygu fframweithiau i gefnogi Clybiau, Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) ac Awdurdodau Lleol i gyflawni safonau cynhwysiant rhagorol i bobl anabl mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol.
Ein Cenhadaeth
Dylanwadu, Cynnwys, Ysbrydoli, insport
Chwaraeon Anabledd Cymru (DSW) yw’r sefydliad arweiniol ar gyfer gweithgaredd corfforol anabledd (gan gynnwys chwaraeon) yng Nghymru. Mae ChAC yn creu ac yn cefnogi cyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn ffordd fwy corfforol o fyw ar lefel gymunedol, yn ogystal â thalent sy'n cystadlu mewn anabledd a pharasport ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol.