22nd Sep 2017

Prosiect Gweithdy Bychan ar gyfer Cyflawni Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd (Mini-DIT) ar gyfer Ynys Môn

 

Prif nod y prosiect oedd cynnig gweithdy bychan ar Hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd i ysgolion cynradd ar Ynys Môn. Mae Mini-DIT yn raglen ddysgu gynhwysol ar gyfer disgyblion ysgol cynradd sydd wedi ei bwriadu ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Cafodd ei chreu gan Chwaraeon Anabledd Cymru er mwyn codi ymwybyddiaeth ynghylch chwaraeon anabledd ac i ddangos sut y gellir cynnwys ffrindiau anabl mewn gweithgareddau yn ystod a’r tu allan i oriau ysgol. Roedd y prosiect hwn yn targedu disgyblion blwyddyn 5 ar draws y 5 dalgylch yn Ynys Môn.

 

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys sesiwn ar y canfyddiad o bobl anabl mewn chwaraeon, y derminoleg sy’n gywir ac yn briodol a’r addasiadau y gellir eu gwneud er mwyn gwella cynhwysiant. Mae Mini-DIT yn cysylltu i mewn i raglen Llythrennedd Corfforol Chwaraeon Cymru sy’n dweud y dylai pawb fod â chatalog o sgiliau, ynghyd â hyder a chymhelliant pan ddaw i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol. Mae’r hyfforddiant yn anelu at gefnogi cynhwysiant drwy gyflawni’r canlyniadau isod:

 

1.            Dysgu mwy am yr hyn y gall plant, pobl ifanc ac oedolion anable ei wneud

 

2.           Dysgu sut i gynnwys eich ffrindiau yn eich holl weithgareddau Addysg Gorfforol a chwarae.

 

Llysgenhadon Ifanc o Brifysgol y Met yng Nghaerdydd ac Ysgol Gyfun Llangefni hwylusodd y sesiwn hyfforddiant mewn 16 o ysgolion cynradd ar draws Ynys Môn gyda 417 o ddisgyblion cyfnod allweddol 2 wedi mynychu.

 

 

 

“Rhyfeddol! Fe wnaethom ddysgu y gall pawb gymryd rhan a bod modd newid a chwarae gemau er mwyn sicrhau y gall pawb ymuno!”

    Disgybl blwyddyn 5, Ysgol Y Graig, Llangefni                            

 

 


 

Roedd y profiad yn un gwerth chweil, yn codi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y disgyblion o wahanol gyflyrau. Roedd y tiwtoriaid yn wybodus iawn ac yn rhoi gwybodaeth ardderchog a pherthnasol a oedd yn cael ei chyflwyno mewn modd a oedd yn briodol i oedran y disgyblion. Rhoes y sesiwn ddealltwriaeth i’r disgyblion o’r modd y gallant gynnwys eu cymheiriaid a hynny drwy gyfrwng gweithgareddau hwyliog a difyr. Rydym eisoes wedi gweld enghreifftiau o ddisgyblion yn defnyddio rhai o’r syniadau i gynnwys eraill yn ystod sesiynau amser egwyl ac amser cinio. Byddai’n wych petai’r hyfforddiant hwn yn cael ei ymestyn i’r holl ysgolion oherwydd mae’n rhoi cyfleon buddiol i ddisgyblion!”

 

Mr Owain Williams, Athro Blwyddyn 5, Ysgol Y Graig, Llangefni

 

 


Back

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Twitter

RT #Day18 #bens100days with Mia Lloyd from Cardigan, Inspiring Person of the Year #WSA2019 Smash it !! Are you feeling… https://t.co/ihjQs7V5mF


It is important that we do all we can to keep Wales safe by following all Government guidelines! Mae'n bwysig ein… https://t.co/XtzeaQi0g8


Congratulations 👏 https://t.co/MHkLIYL5ln


RT A knockout club at the heart of the community! 🥊 Our January Club of the Month award goes to the fantastic Pembrok… https://t.co/lifza62kDc