15th Jan 2019

Chwaraeon Anabledd Cymru’n cyhoeddi enw Admiral fel prif Noddwr newydd

Bydd Admiral yn bartner i Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer cyflwyno ei raglen HCA (Hyfforddiant Cynnwys Amrywiaeth) mini ledled Cymru yn 2019.

Mae Rhaglen Chwarae Gyda’n Gilydd Admiral, sydd wedi’i hailfrandio, yn cynnwys dysgu cynhwysol creadigol ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 4, 5 a 6 mewn ysgolion cynradd (cyfnod allweddol 2). Yr ystyr llythrennol yw hyfforddiant cynnwys anabledd mini ac mae’r sesiwn 40 munud yn rhoi sylw i bynciau amrywiol sy’n gysylltiedig â chwaraeon cynhwysol ac anabledd.

Bydd buddsoddiad Admiral yn galluogi Chwaraeon Anabledd Cymru i gyflwyno’r rhaglen ledled Cymru a bydd yn gallu cyflwyno oddeutu 50 i 60 o ddosbarthiadau i oddeutu 1,500 o blant ledled Cymru. Hefyd bydd y buddsoddiad yn galluogi ChAC i lunio tystysgrifau ‘llongyfarchiadau’ ar gyfer yr holl blant sy’n cymryd rhan. Bydd yn gwneud i’r ysgolion/plant deimlo eu bod yn cyflawni ac yn sicrhau Mwy o Staff, Mwy o Ysgolion, Mwy o Oriau, Mwy o Hwyl.

Dywedodd Fiona Reid, Prif Weithredwr Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae’r bartneriaeth gydag Admiral i gyflwyno’r sesiynau Chwarae Gyda’n Gilydd i blant ysgol iau ledled Cymru’n hynod arwyddocaol i ni. Mae effaith bosib y gwaith yma’n enfawr – rydyn ni’n dysgu cymaint oddi wrth agwedd ‘medru gwneud’ plant a nhw yw ein gwaddol ni – os yw pobl ifanc yn meddwl yn gynhwysol, mae dyfodol gwell fyth o gyfle ar gael i bobl anabl a heb anabledd gael hwyl, bod yn egnïol neu gystadlu – beth bynnag maen nhw eisiau. Bydd cefnogaeth Admiral yn sicrhau ein bod ni’n gallu mynd allan i gymaint o ysgolion â phosib ac ysbrydoli cannoedd o blant y genhedlaeth nesaf i Chwarae Gyda’i Gilydd”.

Dywedodd Ceri Assiratti, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Admiral: “Rydyn ni’n hynod falch o fod yn bartner i Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Rhaglen Chwarae Gyda’n Gilydd Admiral. Fe wnaeth eu dull nhw o addysgu plant am gynhwysiant dynnu ein sylw ni’n syth, yn enwedig gan ein bod ni’n ceisio gwneud Admiral yn weithle mor gynhwysol â phosib. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y Rhaglen yn cael ei hehangu ac at ysbrydoli plant ledled Cymru.”

Back

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Twitter

RT 21-9, 21-19 W v Russian number 1 in the mens singles of Turkish parabadminton International. Next match at 2pm uk t… https://t.co/EYqIH2uK5l


RT Starting tomorrow: DISABILITY FOOTBALL For 5-12 year olds 5-6pm in the Sports Hall Call us to book on - 01291 4… https://t.co/1xPsyhKMHp


RT THIS SATURDAY!! Don't miss this fantastic FREE event to try a variety of Disability Sports including Boccia, Wheelc… https://t.co/B78ahqZf9v


RT Some quality performances from several players 👍 and valuable opportunities to experience good international compet… https://t.co/8OD0bP1lKW


Cofrestru i dderbyn cylchlythyr