31st Jan 2019

SWYDD YSGOGYDD ‘CODI ALLAN A BOD YN EGNÏOL’ RHCT

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Ymddiriedolaeth Spirit of 2012, yn chwilio am unigolyn deinamig i helpu i drawsnewid bywydau pobl (anabl) nad ydynt yn gwneud ymarfer corff yn ardal Rhondda Cynon Taf trwy eu helpu i gadw’n heini a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden corfforol.

 

 

Y Cwmni:

Chwaraeon Anabledd Cymru yw’r prif sefydliad ar gyfer chwaraeon anabledd yng Nghymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi Gweledigaeth y Sector o ‘Uno cenedl sy’n caru’r campau’, lle mae pob person (anabl) wedi gwirioni ar chwaraeon a hamdden gorfforol. Mae ein partner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, eisoes yn darparu chwaraeon i bobl anabl ac yn rhannu ein gweledigaeth i drawsnewid bywydau. Mae’n gwneud hyn drwy greu dewis a chyfleoedd drwy ddarparu darpariaeth gymunedol ac addysg o ansawdd uchel a hyfforddiant a chyfleoedd dysgu cynhwysol.    

 

Y Rôl: Bydd deiliad y swydd yn datblygu ac yn cefnogi chwaraeon anabledd a chyfleoedd gweithgrwch corfforol ledled y Sir ac yn cydlynu rhaglen Codi Allan Bod yn Egnïol (Get Out Get Active - GOGA) Spirit of 2012. Er mwyn buddio rhai o oedolion mwyaf difreintiedig ac anweithredol ardal Rhondda Cynon Taf, Ffocws y prosiect bydd annog mwy o oedolion (anabl) i gymryd rhan mewn gweithgareddau (gan gynnwys gweithgareddau awyr agored) a fydd yn arwain at wella iechyd a lles.

Mae rhaglen GOGA yn buddsoddi £4.5 miliwn ledled y DU er mwyn datblygu, cyflwyno a dysgu oddi wrth ffyrdd arloesol o gefnogi pobl segur i gymryd rhan mewn hamdden egnïol. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru’n arwain partneriaeth ddeinamig ac unigryw yng Nghymru a fydd yn creu newid mawr mewn tri Awdurdod Lleol yng Nghymru, ac mewn pymtheg o leoliadau pellach ledled y DU. Mae Rhondda Cynon Taf  wedi cael ei ddewis fel un o’r lleoliadau allweddol hyn.

 

Lleoliad:

Lleoliad y swydd hon bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Abercynon, o fewn swyddfeydd Chwaraeon Rhondda Cynon Taf.                                                                                      

 

Pam ddylech chi wneud cais am y swydd yma?

  • ·         Bod yn rhan o dîm cadarn, cefnogol a rhagweithiol               
  • ·         Gweithio i gyflogwr teg ac amrywiol sydd â moeseg a gwerthoedd proffesiynol cadarn     
  • ·         Cyfle i drawsnewid bywydau a chefnogi darparu chwaraeon a hamdden gorfforol gynhwysol yng Nghymru              

 

Anfonwch eich cais at: Y Rheolwr Partneriaethau Cenedlaethol, Chwaraeon Anabledd Cymru, d/o Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.

E-bost: michelle.daltry@disabilitysportwales.com

 

Rhif Ffôn:  07918 716316

Neu ewch i: www.disabilitysportwales.com

Mae’r swydd hon yn cael ei chefnogi gan

Ymddiriedolaeth Spirit of 2012  

 

Hysbyseb Swydd 

Pecyn Cais 

Back

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Twitter

RT The Welsh Special Needs & Adaptive Squad Training takes place Saturday 27th April! Judo is an inclusive & accessibl… https://t.co/XfVl1mytqM


RT Looking forward to defending my British title @ParkPembrey in July. Thanks to @WelshCycling @AledJones06 for making… https://t.co/YYR1owPXVy


RT @welshramdcfc @Ljonescycling @ParkPembrey @WelshCycling @AledJones06 @sportcarms @dsw_news @JAVELINSTEPHENShttps://t.co/kGX9B3HCrE


RT "Massively excited – will be great to compete in an able bodied tournament & I'm looking forward to playing & compe… https://t.co/Q9zXCDkJJG


Cofrestru i dderbyn cylchlythyr