10th Jan 2020

SWYDD YSGOGYDD CODI ALLAN A BOD YN EGNÏOL WREXHAM

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Ymddiriedolaeth Spirit of 2012, yn chwilio am unigolyn deinamig i helpu i drawsnewid bywydau merched (anabl) yn ardal Wrecsam drwy eu helpu i fod yn fwy egnïol a chymryd rhan mewn hamdden gorfforol.        

 

Y Cwmni:

Chwaraeon Anabledd Cymru yw’r prif sefydliad ar gyfer chwaraeon anabledd yng Nghymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi Gweledigaeth y Sector o ‘Uno cenedl sy’n caru’r campau’, lle mae pob person (anabl) wedi gwirioni ar chwaraeon a hamdden gorfforol. Mae ein partner, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, eisoes yn darparu chwaraeon i bobl anabl ac yn rhannu ein gweledigaeth i drawsnewid bywydau. Mae’n gwneud hyn drwy greu dewis a chyfleoedd drwy ddarparu darpariaeth gymunedol ac addysg o ansawdd uchel a hyfforddiant a chyfleoedd dysgu cynhwysol.    

 

Y Rôl: Bydd deiliad y swydd yn datblygu ac yn cefnogi chwaraeon anabledd a chyfleoedd gweithgrwch corfforol ledled y Sir ac yn cydlynu rhaglen Codi Allan Bod yn Egnïol (Get Out Get Active - GOGA) Spirit of 2012. Bydd hyn o fudd i rai o’r merched mwyaf difreintiedig a segur yn Wrecsam. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar annog mwy o ferched (anabl) i gymryd rhan mewn gweithgareddau (gan gynnwys gweithgareddau awyr agored) a fydd yn arwain at wella iechyd a lles. Mae rhaglen GOGA yn buddsoddi £4.5 miliwn ledled y DU er mwyn datblygu, cyflwyno a dysgu oddi wrth ffyrdd arloesol o gefnogi pobl segur i gymryd rhan mewn hamdden egnïol. Mae Chwaraeon Anabledd Cymru’n arwain partneriaeth ddeinamig ac unigryw yng Nghymru a fydd yn creu newid mawr mewn tri Awdurdod Lleol yng Nghymru, ac mewn pymtheg o leoliadau pellach ledled y DU. Mae Wrecsam wedi cael ei ddewis fel un o’r lleoliadau allweddol hyn.

 

Lleoliad:

Bydd y swydd wedi’i lleoli yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Wrecsam, yn swyddfeydd Wrecsam Egnïol. 

 

Pam ddylech chi wneud cais am y swydd yma?

  • ·         Bod yn rhan o dîm cadarn, cefnogol a rhagweithiol               
  • ·         Gweithio i gyflogwr teg ac amrywiol sydd â moeseg a gwerthoedd proffesiynol cadarn     
  • ·         Cyfle i drawsnewid bywydau a chefnogi darparu chwaraeon a hamdden gorfforol gynhwysol yng Nghymru              

 

Anfonwch eich cais at: Y Rheolwr Partneriaethau Cenedlaethol, Chwaraeon Anabledd Cymru, d/o Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, Gerddi Sophia, Caerdydd, CF11 9SW.

E-bost: michelle.daltry@disabilitysportwales.com

 

Rhif Ffôn:  07918 716316

Neu ewch i: www.disabilitysportwales.com

Mae’r swydd hon yn cael ei chefnogi gan

Ymddiriedolaeth Spirit of 2012  

Hysbyseb Swydd

Pecyn Cais

Back

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Twitter

📣 @Urdd would like your opinion and understanding of your experiences to plan future developments,and appreciate yo… https://t.co/v4CfHyibfC


📝 DSW need your help to improve physical activity for disabled people by sharing your experiences! @BethMunro19https://t.co/50CUdJJpIj


📣 The Welsh Sports Association for People with Learning Disability are seeking a consultant or consultancy to suppo… https://t.co/ZGMbyJr6ck


RT @Kieranjones____ is delighted to back in shot put action and takes inspiration from @AledDavies2012. @dsw_newshttps://t.co/FIa1ymkXOy