SHARE
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru, mewn partneriaeth â Cyngor Sir Penfro, Ymddiriedolaeth Spirit of 2012 a ymddiriedolaeth elusennol marathon llundain, yn chwilio am unigolyn deinamig i helpu ymestyn ymgysylltiad cymunedol teuluoedd â phlant a Addysgir yn y Cartref ledled Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys.
Y Cwmni:
Chwaraeon Anabledd Cymru yw’r prif sefydliad ar gyfer chwaraeon anabledd yng Nghymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi Gweledigaeth y Sector o ‘genedl weithgar lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes’. Mae ein partner, Cyngor Sir penfro, eisoes yn darparu chwaraeon i bobl anabl ac yn rhannu ein gweledigaeth i ac mae'n gwneud hyn drwy greu dewis a chyfle drwy ddarparu darpariaeth gymunedol o ansawdd uchel, addysg a darparu cyfleoedd hyfforddi a dysgu cynhwysol.
Y Rôl: Bydd deiliad y swydd yn cydlynu'r rhaglen Get Out Get Active (GOGA) (a ariennir gan Spirit of 2012 ac Ymddiriedolaeth Elusennol Marathon Llundain) yng Ngorllewin Cymru (Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Gorllewin Powys). Byddant yn datblygu rhaglen 'gweithgarwch corfforol' yn y gymuned a fydd yn ymestyn ymgysylltiad cymunedol teuluoedd ag Addysg Ddewisol yn y Cartref, gyda'r ffocws yw bod pobl ifanc anabl a phobl nad ydynt yn anabl a'u teuluoedd â lefelau gweithgarwch isel yn cael cyfleoedd i fod yn actif gyda'i gilydd, mewn cyfleoedd sy'n gynaliadwy ac yn creu newid hirdymor. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar annog mwy o bobl ifanc (anabl) i gymryd rhan mewn gweithgareddau a fydd yn arwain at well iechyd a lles a mwy o lythrennedd corfforol.
Mae rhaglen GOGA yn gweld buddsoddiad ledled y DU i ddatblygu, darparu a dysgu o ffyrdd arloesol o gefnogi pobl anweithgar i hamdden. Chwaraeon Anabledd Cymru yw'r sefydliad partner ar gyfer hwyluso'r ddarpariaeth yng Nghymru bartneriaeth unigryw gynhwysol a deinamig a fydd yn gweld newid gwirioneddol mewn ardal wledig yng Nghymru ochr yn ochr â 2 ardal arall yng Nghymru.
Lleoliad: Bydd y swydd wedi'i lleoli yng Nghyngor Sir Penfro gyda gwaith cartref ystwyth lle mae'r cyfyngiadau oherwydd Covid 19 yn berthnasol.
Cyflog: £14,913 a phensiwn
Math o Gyflogaeth: Rhan Amser 21 awr yr wythnos (3 diwrnod)
Pam ddylech chi wneud cais am y swydd yma?
Cyfle i ddylanwadu ar newid, datblygu dysgu yn y sector a chefnogi'r gwaith o ddarparu chwaraeon a hamdden gorfforol cynhwysol yng Nghymru
Dyddiad cau ar gyfer Cais: Dydd Mercher 21 Hydref
Anfonwch eich cais at: Nia Jones Swyddog GOGA a Cyllid
E-bost: nia.jones@disabilitysportwales.com
Rhif Ffôn: 07716 110403
Neu ewch i: www.disabilitysportwales.com
Mae’r swydd hon yn cael ei chefnogi gan
Ymddiriedolaeth Spirit of 2012 a Ymddiriedolaeth Elusennol Marathon Llundain
Mwy na gem, trawsnewid bywyd
Twitter
Gareth is looking forward to our Virtual Awards night! More info coming soon... 🏆 https://t.co/2mk58T3Qf1
RT Welsh Sport Clubs 📢 We have ideas to help with your #BeActiveWales Fund application 💡 https://t.co/kdczdyHPfW https://t.co/tKtBONI4T7
RT Clybiau Chwaraeon Cymru 📍 Mae gennym ni syniadau i’ch helpu chi gyda chais i Gronfa #CymruActif 💡… https://t.co/gQygnbcv5x
📢 Mike Hayes appointed as Wales Women’s 3v3 Head Coach! 📢 Penodi Mike Hayes yn Brif Hyfforddwr Menywod Cymru 3v3!… https://t.co/Xg3oScCXtO