SHARE
Wheelchair basketball Wales - Gyda chefnogaeth Chwaraeon Anabledd Cymru
Prif Hyfforddwr Tîm Cenedlaethol y Merched 3x3
Disgrifiad Swydd
Diben y Swydd
Gan adrodd i WWBA a Chwaraeon Anabledd Cymru, bydd y Prif Hyfforddwr yn gyfrifol am arwain Tîm Cenedlaethol Menywod Cymru gyda'r nod o sicrhau llwyddiant ar lefel ryngwladol.
Taliadau
Mae'r swydd hon yn wirfoddol tan 31 Awst 2022, yn amodol ar adolygiadau perfformiad.
Ymrwymiad Amser
i fodloni gofynion y rôl wirfoddol. Mae angen rhywfaint o ymrwymiad gyda'r nos ac ar benwythnosau.
Lleoliad
I'w drafod gyda WWBA a Chwaraeon Anabledd Cymru.
Rolau a Chyfrifoldebau
Arwain datblygiad sefydliadol, technegol, tactegol a chorfforol y rhaglen pêl-fasged cadair olwyn 3x3 i fenywod yng Nghymru
• Nodi athletwyr sy'n dangos y potensial i gynrychioli Cymru drwy raglen llwybr, gan feithrin perthynas gryf ag athletwyr a hyfforddwy
• Cynllunio a gweithredu rhaglen safonol ryngwladol sy'n cynhyrchu athletwyr perfformiad uchel gan ddefnyddio strwythurau ac adnoddau yng Nghymru
• Adeiladu diwylliant tîm lle caiff pob aelod ei werthfawrogi a chreu amgylchedd lle gall pob chwaraewr berfformio'n gyson i'w potensial
• Gweithio'n agos gyda WWBA a Chwaraeon Anabledd Cymru i adnabod a dethol chwaraewyr ar gyfer carfan 3 x 3 y Merched
• Helpu i hwyluso fformiwla hyfforddiant a chystadleuaeth ddomestig a rhyngwladol o ansawdd uchel er mwyn sicrhau bod y rhaglen 3 x 3 yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl
• Monitro a gwerthuso perfformiad athletwyr gan ddefnyddio data perthnasol i sicrhau bod safonau'n cael eu bodloni a bod potensial yn cael ei gydnabod
• Sicrhau bod Cynlluniau Perfformiad Unigol yn cael eu gweithredu, a'u hadolygu, yn cysylltu â hyfforddwyr y clwb i sicrhau bod anghenion hyfforddi athletwyr perfformiad yn cael eu diwallu ar lefel leol
• Bod yn gyfrifol am arwain y gwaith o hyfforddi a pharatoi carfan Cymru 3 x 3 ac aelodau unigol o'r tîm gan ddefnyddio strategaethau addysgu/hyfforddi effeithiol i wella datblygiad unigol a pherfformiad tîm
• Cynnal safonau moesegol uchel mewn hyfforddi, gan gael y wybodaeth, y sgiliau a'r cymwysterau cyfredol
• Rhannu arbenigedd a gwybodaeth drwy rwydwaith hyfforddwyr WWBA, gan sicrhau cefnogaeth i athletwyr a nodwyd ar y llwybr
• Cael dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r angen i barchu cyfrinachedd
• Sicrhau bod dyletswydd gofal i athletwyr yn cael ei bodloni a bod polisi a gweithdrefn diogelu yn cael eu gorfodi
• Cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chynnal delwedd a phroffil llwyddiannus ar gyfer Pêl-fasged Cadair Olwyn Cymru a chyfrannu at unrhyw gysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu a cheisiadau gan y cyfryngau fel y bo'n briodol gydag aelodau'r tîm.
• Ymgymryd â hyfforddiant sy'n briodol i'r rôl
• Cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol a'u gorfodi, yn enwedig Cod Ymddygiad y Hyfforddwr.
• Cynnal gwerthoedd WWBA, sef: Uniondeb, Cynhwysiant, Rhagoriaeth, Cydweithredu, Tryloywder ac Uchelgais
Manyleb y Person
• Profiad arwain effeithiol mewn amgylchedd pêl-fasged cadair olwyn sydd â hanes profedig o gyflawni canlyniadau
• Profiad o hyfforddi ar lefel y Gynghrair Genedlaethol
• Lefel wybodaeth ragorol pêl-fasged cadair olwyn, gan gynnwys gwybodaeth dechnegol ragorol ac ymwybyddiaeth o dueddiadau hyfforddi
• Gwybodaeth am reolau a rheoliadau BWB a IWBA.
• Sgiliau cyfathrebu medrus a ddarbwyllol gyda dealltwriaeth dda o'r amgylchedd perfformio pêl-fasged cadair olwyn ac anghenion chwaraewyr elît
• Dealltwriaeth o sut mae chwaraewyr unigol yn cael eu hysgogi ac yn gallu amrywio dulliau o ddatblygu perfformiad rhagorol a chyflawni'r gorau o dalent sy'n bodoli eisoes
• Bod â dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r angen i barchu cyfrinachedd
• Hunan-gymhelliant ac yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
• Bod ag uniondeb a didwylledd uchel ynghyd ag ymrwymiad i lywodraethu da
• Parodrwydd i wirfoddoli oriau afreolaidd a, phan fo angen, i deithio ledled Cymru a'r DU
• Perthynas gryf â chlybiau pêl-fasged cadair olwyn a'u prif hyfforddwyr ledled Cymru a'r DU
• Profiad a gallu i gefnogi datblygiad cyfannol athletwyr
• Dealltwriaeth o gyfle cyfartal ac ymrwymiad iddo
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gynnal tystysgrif hyfforddi Lefel 2 o leiaf gydag ymrwymiad i ennill cymhwyster lefel 3 o fewn 18 mis i'w benodi. Bydd gan yr ymgeisydd Drwydded Hyfforddwr Pêl-fasged Cadair Olwyn Prydain, Tystysgrif Diogelu ac Amddiffyn Plant/Oedolion ddilys a Thystysgrif Cymorth Cyntaf Brys ddilys. Mae'r rôl yn amodol ar wiriad DBS manylach boddhaol.
Barod i wneud cais?
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais am Prif Hyfforddwr Tîm y Merched 3x3 cymru, dylech anfon erbyn 31 Rhagfyr 2020
• CV
• Llythyr eglurhaol (yn ymdrin â'r pwyntiau ym manyleb y person)
• copïau pdf o drwydded eich Hyfforddi, cymwysterau hyfforddi a thystysgrifau ategol eraill.
Anfonwch at: office@disabilitysportwales.com
Cynhelir cyfweliadau drwy gynhadledd fideo ar 15 Ionawr 2021.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: - Chris Wilson, Cadeirydd WWBA ar 07923 246408
Mwy na gem, trawsnewid bywyd
Twitter
Gareth is looking forward to our Virtual Awards night! More info coming soon... 🏆 https://t.co/2mk58T3Qf1
RT Welsh Sport Clubs 📢 We have ideas to help with your #BeActiveWales Fund application 💡 https://t.co/kdczdyHPfW https://t.co/tKtBONI4T7
RT Clybiau Chwaraeon Cymru 📍 Mae gennym ni syniadau i’ch helpu chi gyda chais i Gronfa #CymruActif 💡… https://t.co/gQygnbcv5x
📢 Mike Hayes appointed as Wales Women’s 3v3 Head Coach! 📢 Penodi Mike Hayes yn Brif Hyfforddwr Menywod Cymru 3v3!… https://t.co/Xg3oScCXtO