Y llynedd, cefnogodd Chwaraeon Anabledd Cymru fwy na miliwn o gyfleoedd i bobl anabl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gyda mwy na 750 o glybiau a sesiynau ar gael ledled Cymru, o Saethyddiaeth i Godi Pwysau, rydyn ni’n hyderus bod gennym ni gyfle sy’n addas ar eich cyfer chi.
Beth am ddefnyddio ein hadnodd chwilio am glwb i weld pa glybiau a sesiynau sydd ar gael ar garreg eich drws chi?! Fel dewis arall, cysylltwch â Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru yn eich ardal leol chi - bydd yn fwy na pharod i roi cyngor i chi.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi ymrwymo i Drawsnewid Bywydau Drwy Bŵer Chwaraeon ac rydyn ni bob amser yn chwilio am glybiau newydd, hyfforddwyr newydd a gwirfoddolwyr newydd i’n helpu ni i gyflawni’r amcan yma. Edrychwch ar ein hadran gweithlu i weld sut gallwch chi gymryd rhan. Ydych chi’n barod i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arwyr chwaraeon Cymru?
There are hundres of clubs across Wales offering disability-specific or disability-inclusive sport opportunities. Find the ones that suit you
Swyddogion Datblygu
Chwaraeon Anabledd Cymru
Twitter
This year's Emerging Athlete of the Year was Deryn! Deryn is also the recipient of the Gareth John bursary! ⭐ Watc… https://t.co/RPF9YPU6aJ
RT 🇯🇵 🗻 Welsh Olympic and Paralympic hopefuls have been primed to expect a very different experience in Tokyo in 202… https://t.co/plKuYAkJwK
We wish we could relive our awards night - thank you all once more for making it a night to remember!🏆 WRU have do… https://t.co/ULNBKoMFTF
⛳ Another takeover – check out @disability_sport_wales on Instagram to see Wales Golf in action! ⛳ Meddiannu arall… https://t.co/Z7X7MOpVWd