News

Our Charity

Ein Helusen       

Fis Gorffennaf 2011, cymeradwywyd Ffederasiwn Chwaraeon Anabledd Cymru, sefydliad dielw, gan y Comisiynydd Elusennol ar gyfer Cymru a Lloegr a daeth yn Gwmni Cyfyngedig trwy Warant gyda Statws Elusennol.   

Ein Hathroniaeth

Rydym yn credu bod gan bob person, dim ots beth yw ei oedran na’i allu, hawl i ymwneud yn llawn ac am oes â chwaraeon.                             

Sefydlwyd Chwaraeon Anabledd Cymru yn 1985 yn benodol er mwyn bod o fudd i bobl anabl wrth iddynt gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Ein Gweledigaeth

'Trawsnewid Bywydau drwy Bŵer Chwaraeon’

Ein Cenhadaeth

Cymuned - Pob Person Anabl Wedi Gwirioni ar Chwaraeon Am Oes

Perfformio - Cenedl o Bencampwyr Anabl

Dyma rai o’n Llwyddiannau  

Aled Siôn Davies, Enillydd Medal Aur yn nosbarth F42 y Ddisgen ac Enillydd Medal Efydd yn nosbarth F42/44 y Taflu Maen yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012

“Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cynnig cyfleoedd i mi na fyddwn i wedi breuddwydio eu cael ac wedi helpu i wireddu fy mreuddwydion i. Fe enillais i fedalau aur ac efydd yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain 2012 ac rydw i’n eithriadol falch o hynny.”

Sara Head, Enillydd Medal Efydd, Tennis Bwrdd, Gemau Paralympaidd Llundain 2012

‘Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn fy nghefnogi i’n gyson ac wedi credu ynof i erioed. Maen nhw wedi fy arwain i i wireddu fy mreuddwyd o gael fy newis ar gyfer Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ac fe wnes i ennill medal efydd yno yn y tennis bwrdd.’

Mark Colbourne, Enillydd Medal Aur yn y Gweithgaredd C1-2-3 3km ac Enillydd Medal Arian yn y treialon amser 1km yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012

“Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi fy nghefnogi i ac wedi gwella ansawdd fy mywyd i. Gan eu bod nhw wedi fy nghyflwyno i i’r trac, rydw i wedi ennill medal aur Paralympaidd yn awr ac yn Bencampwr Parafeicio’r Byd.” 

Manylion Ein Helusen

Dyma gyfeiriad cofrestru ein helusen:

Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru

Gerddi Sophia

Caerdydd

CF11 9SW

 Rhif yr Elusen: 1144663

 Rhif y Cwmni: 05199508

Ein Hymddiriedolwyr Elusennol

Ein Cyfarwyddwyr Anweithredol presennol yw ein Hymddiriedolwyr arfaethedig, fel y cyflwynwyd i Gomisiynwyr Elusennau Cymru a Lloegr.            

Mr Gareth John MBE - Prif Swyddog Adran Hamdden Awdurdod Lleol wedi ymddeol                                 

Mr Lance Osgood       - Cyfrifydd Siartredig wedi ymddeol

Rhoi

Os hoffech chi helpu i gefnogi ein gwaith ni, gallwch gyfrannu yma. Mae eich cefnogaeth chi’n gwneud byd o wahaniaeth wrth i ni barhau i gyflawni ein hamcanion allweddol.  

Diolch yn fawr.

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Mwy na gem, trawsnewid bywyd

Twitter

Ydych chi’n dod i’r digwyddiad yma? Dewch i roi gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau! Are you coming to this event… https://t.co/v0dDOf64yV


RT EVENTS | It's on and it's set to be a game-changer! Get your entries in now for the Welsh 4 Nations Disability Badm… https://t.co/FJxS8cFBIc


Llongyfarchiadau mawr i chi a pob hwyl ar eich taith tuag at Efydd! Huge congratulations to you and good luck in y… https://t.co/VeayAFd877


@harrijenk talks about representing Team GB as well as winning Gold at the World Para Athletics European Championsh… https://t.co/1d2222kGKA


Cofrestru i dderbyn cylchlythyr