News

Abertawe

Abertawe

 

Croeso i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.           

Fy enw i yw Carly James a fi yw Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Abertawe. Rydw i’n gweithio yn adran Datblygu Chwaraeon y cyngor.              

Os oes gennych chi anabledd ac os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon yn Abertawe, mae gennym ni ddarpariaeth gynhwysol a phenodol i anabledd ar gael, yn amrywio o syrffio i boccia, carate a phêl fasged cadair olwyn, beicio a phêl droed gyda nam ar y golwg, i enwi dim ond rhai.

Os ydych chi’n glwb / sefydliad lleol ac eisiau cynnig darpariaeth gynhwysol, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyflwyno insport. Proses achredu gyda phedair haen (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) yw insport a chaiff unrhyw glwb chwaraeon fynd drwyddi i ddangos ei fod wedi ymrwymo i ddarparu chwaraeon cynhwysol. Fel eich swyddog lleol, fe allaf i gefnogi clybiau drwy’r broses hon, a helpu i hybu’r gweithgareddau ymhlith cyfranogwyr posib.                                                              

Os hoffech chi hyfforddi neu wirfoddoli, mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael ac rydyn ni bob amser yn awyddus i recriwtio pobl newydd ar y rhaglen. I gefnogi hyfforddwyr a gwirfoddolwyr newydd, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant drwy gyfrwng Cwrs Hyfforddiant Cynnwys Anabledd y DU (UK DIT), sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Os hoffech i gwrs gael ei drefnu ar gyfer eich clwb/sefydliad yn Abertawe, cofiwch gysylltu neu fynd i’n gwefan i weld unrhyw ddyddiadau sydd i ddod yn y rhanbarth.

Felly os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth ar sut mae ymwneud â chwaraeon anabledd yn eich cymuned, cofiwch gysylltu ac fe allwn ni eich helpu chi. 



Get in Touch

Enw: Carly James

Phone:

Mobile:

E-bost: Carly.James@swansea.gov.uk

Cyfeiriad


Swyddogion Datblygu

Swyddogion Datblygu

Chwaraeon Anabledd Cymru

Twitter

We caught up with DSW's Talent Officer @JAVELINSTEPHENS at the launch of the Admiral Play Together Programme at Cad… https://t.co/n5CnofThfU


RT Cwrs Arweiniaeth Boccia, Porthmadog gyda Pete Wyman o Boccia England yn tiwtora 12 staff y Cyngor, mudiadau a gwirf… https://t.co/mfwFk7fHZe


RT Boccia Leaders Course, Porthmadog with Pete Wyman from Boccia England tutoring 12 Gwynedd Staff, agencies and Disab… https://t.co/INXLmZpymx


RT @RhysJonesRuns ‘As a child I was told I was a useless case’ #London2012#Glasgow2014🥉✅ #GoldCoast2018✅ ‘I crie… https://t.co/xfvOWu3UsS


Cofrestru i dderbyn cylchlythyr