Croeso i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Dinas a Sir Abertawe.
Fy enw i yw Carly James a fi yw Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Abertawe. Rydw i’n gweithio yn adran Datblygu Chwaraeon y cyngor.
Os oes gennych chi anabledd ac os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon yn Abertawe, mae gennym ni ddarpariaeth gynhwysol a phenodol i anabledd ar gael, yn amrywio o syrffio i boccia, carate a phêl fasged cadair olwyn, beicio a phêl droed gyda nam ar y golwg, i enwi dim ond rhai.
Os ydych chi’n glwb / sefydliad lleol ac eisiau cynnig darpariaeth gynhwysol, mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi cyflwyno insport. Proses achredu gyda phedair haen (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) yw insport a chaiff unrhyw glwb chwaraeon fynd drwyddi i ddangos ei fod wedi ymrwymo i ddarparu chwaraeon cynhwysol. Fel eich swyddog lleol, fe allaf i gefnogi clybiau drwy’r broses hon, a helpu i hybu’r gweithgareddau ymhlith cyfranogwyr posib.
Os hoffech chi hyfforddi neu wirfoddoli, mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael ac rydyn ni bob amser yn awyddus i recriwtio pobl newydd ar y rhaglen. I gefnogi hyfforddwyr a gwirfoddolwyr newydd, rydyn ni’n cynnig hyfforddiant drwy gyfrwng Cwrs Hyfforddiant Cynnwys Anabledd y DU (UK DIT), sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Os hoffech i gwrs gael ei drefnu ar gyfer eich clwb/sefydliad yn Abertawe, cofiwch gysylltu neu fynd i’n gwefan i weld unrhyw ddyddiadau sydd i ddod yn y rhanbarth.
Felly os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth ar sut mae ymwneud â chwaraeon anabledd yn eich cymuned, cofiwch gysylltu ac fe allwn ni eich helpu chi.
Swyddogion Datblygu
Chwaraeon Anabledd Cymru
Twitter
Gareth is looking forward to our Virtual Awards night! More info coming soon... 🏆 https://t.co/2mk58T3Qf1
RT Welsh Sport Clubs 📢 We have ideas to help with your #BeActiveWales Fund application 💡 https://t.co/kdczdyHPfW https://t.co/tKtBONI4T7
RT Clybiau Chwaraeon Cymru 📍 Mae gennym ni syniadau i’ch helpu chi gyda chais i Gronfa #CymruActif 💡… https://t.co/gQygnbcv5x
📢 Mike Hayes appointed as Wales Women’s 3v3 Head Coach! 📢 Penodi Mike Hayes yn Brif Hyfforddwr Menywod Cymru 3v3!… https://t.co/Xg3oScCXtO