Croeso i dudalen Wrecsam ar wefan Chwaraeon Anabledd Cymru. Laura Twohig ydw i, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd
Cymru ar gyfer Wrecsam.
Mae gan Wrecsam ddarpariaeth chwaraeon anabledd dda, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon i bobl anabl. Fe allwch chi ymuno â Chlwb neu gymryd rhan mewn sesiwn talu a chwarae bob wythnos, gyda’r chwaraeon yn amrywio o Nofio i Rygbi Cadair Olwyn.
Mae insport yn rhaglen genedlaethol ledled Cymru ar gyfer Clybiau, Cyrff Rheoli Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol. Mae rhaglen insport wedi’i rhannu’n bedair haen (Rhuban, Efydd, Arian ac Aur) ac mae cyrraedd pob safon yn dibynnu ar ddangos eich bod yn bodloni meini prawf penodol.
Nod insport Clwb ydi cynnwys yr holl glybiau chwaraeon ledled Cymru a’u herio nhw i ystyried eu darpariaeth; cynhwysol neu benodol i anabledd. Mae insport Clwb yn annog clybiau i ystyried eu harferion cyflwyno, eu darpariaeth strwythurol a’u polisïau er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl anabl yn y gymuned. Mae’n rhaglen sy’n cael ei chydnabod yn eang ac mae llawer o glybiau’n gweithio tuag at insport Clwb eisoes. Felly, os hoffech chi i’ch Clwb gael ei achredu gan insport, cofiwch roi gwybod i ni.
Hefyd, mae Hyfforddiant Cynnwys yr Anabl y DU (UK DIT) ar gael i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, i wella eu sgiliau cyflwyno cynhwysol a’r meysydd sy’n ymwneud â chwaraeon anabledd.
Rydw i’n diweddaru’r wefan yn rheolaidd, bob mis, gyda newyddion, digwyddiadau a chyrsiau sydd i ddod, felly cofiw
ch edrych arni’n rheolaidd neu gysylltu â mi i gael rhagor o wybodaeth.
DSW Development Officer
Wrexham Sports Development
Learning Centre
Unit 1
Whitgate Industrial estate
Whitgate Road
Wrexham
LL13 8UG
Swyddogion Datblygu
Chwaraeon Anabledd Cymru
Twitter
This year's Emerging Athlete of the Year was Deryn! Deryn is also the recipient of the Gareth John bursary! ⭐ Watc… https://t.co/RPF9YPU6aJ
RT 🇯🇵 🗻 Welsh Olympic and Paralympic hopefuls have been primed to expect a very different experience in Tokyo in 202… https://t.co/plKuYAkJwK
We wish we could relive our awards night - thank you all once more for making it a night to remember!🏆 WRU have do… https://t.co/ULNBKoMFTF
⛳ Another takeover – check out @disability_sport_wales on Instagram to see Wales Golf in action! ⛳ Meddiannu arall… https://t.co/Z7X7MOpVWd